Mae Trysorydd y Fatican, Cardinal George Pell, wedi ei gael yn euog o gam-drin plant yn rhywiol.

Cyflwynodd y rheithgor ddyfarniad unfrydol ar Ragfyr 11 y llynedd yn Llys Sir Melbourne, ond cafodd y canlyniad ei gadw’n dawel a’i atal rhag cael ei gyhoeddi tan heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 26).

Cafodd George Pell ei ganfod yn euog o gael rhyw gyda phlentyn o dan 16 oed, ac o bedwar achos o weithred anweddus gyda phlentyn o dan 16 oed.

13 oed oedd y plant – roedden nhw wedi cael eu dal yn yfed gwin y cymun yng nghefn Eglwys Gadeiriol San Padrig, Melbourne, ym mis Rhagfyr 1996, lle gyflawnodd y Cardinal y troseddau.

Roedd y rheithgor hefyd o’r farn bod George Pell yn euog o ymosod ar un o’r bechgyn mewn corridor ychydig dros fis yn ddiweddarach.

Mae Goerge Pell, sydd yn 77 nawr – ond yn 55 pan gyflawnwyd y troseddau – yn wynebu uchafswm o 50 mlynedd yn y carchar.

Mae wedi dechrau apêl yn erbyn yr euogfarn.