Mae un o weinidogion llywodraeth India yn cadarnhau fod y wlad wedi gollwng taflegrau ar ran Pacistan o dalaith Kashmir.
Mae’n dod mewn ymateb i ymosodiad bom car yn gynharach y mis yma, pan gafodd 40 o filwyr India eu lladd.
Mae Kashmir yn ardal y mae Pacistan ac India wedi bod yn ymladd drosti ers yr 1980au.
Yn ôl Gajendra Singh Shekhawat, mae llu awyr India wedi cynnal cyrch awyr yn ystod oriau mân y bore ar wersylloedd brawychiaeth” gyda’r nod o’u dinistrio.
Mae India a Pacistan yn dweud, yn annibynnol ar ei gilydd, fod y taflegrau wedi glanio ger gwersyll hyfforddi mwyaf Pacistan yn ardal Balakot.
Dywed India fod y taflegryn wedi lladd nifer o wrthryfelwyr, hyfforddwyr a phenaethiaid byddin Pacistan. Ond mae Pacistan yn dweud nad yw’r ymosodiad wedi achosi unrhyw anafiadau.