Mae tri gweinidog yn galw ar y prif weinidog, Theresa May, i anghofio am Brexit heb gytundeb.

Daw hyn wrth iddynt fygwth cefnogi pleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin fyddai’n gwthio am ohiriad os yw ei chytundeb yn cael ei wrthod.

Yn ôl Richard Harrington, Claire Perry a Margot James ddylai’r Llywodraeth ddweud ei fod yn edrych am ffordd i ohirio Erthygl 50 i osgoi gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ar Fawrth 29.

Mae disgwyl i safle’r Llywodraeth ar Brexit gael ei drafod mewn cyfarfod cabinet bore heddiw (Dydd Mawrth, Chwefror 26) – ble Brexit yw’r unig destun.

Wedi hynny, bydd Theresa May yn gwneud datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin yn egluro beth yw’r diweddaraf o ran y cytundeb.

Wrth ysgrifennu yn The Daily Mail, dywed y tri gweinidog dylai Theresa May addo nawr ei bod hi’n anghofio am y posibilrwydd o wledydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb os yw un hi yn cael ei wrthod.

Yn lle hynny, maen nhw eisiau iddi ohirio, ac yn honni bod 15 o weinidogion eraill hefyd yn barod i ymddiswyddo i atal Brexit heb gytundeb.

Daeth hyn yn dilyn cynnig Theresa May i fynd a’i chytundeb Brexit drwy’r Senedd cyn iddi gael ei gymeradwyo gan y 27 gwlad arall o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

Gyda dim ond 32 diwrnod ar ôl cyn yr ymadawiad, fe fynnodd y prif weinidog ddoe (dydd Llun, Chwefror 25) ei bod hi “o fewn cyrraedd” gwledydd Prydain i adael yr Undeb Ewropeaidd gyda chytundeb ar Fawrth 29.