Mae llys goruchaf y Cenhedloedd Unedig wedi deddfu bod Prydain wedi gweithredu’n anghyfreithlon trwy hollti Mauritius a hawlio ynysoedd Chagos fel rhan o’i thiriogaethau ei hun.

Mae’n gorchymyn y dylai Prydain roi’r ynysoedd yn ôl “cyn gynted â phosib”.

Dydi penderfyniad y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol ddim yn gallu gorfodi yr un wlad i ufuddhau, ond mae’n cario cryn dipyn o bwysau ac fe fydd yn rhoi pwysau ar lywodraeth San Steffan i ymateb.

Fe fu Ptydain yn gyfifol am hel tua 2,000 o bobol o ynysoedd Chagos yn y 1960au a’r 1970au, fel bod byddin yr Unol Daleithiau yn cael rhwydd hynt i godi safle milwrol ar Diego Garcia.

Fe ddaeth nifer o’r bobol hynny i fyw i wledydd Prydain, gan ddwyn achosion yn erbyn y wladwriaeth wrth geisio cael yr hawl i ddychwelyd adref.

Mae’r ynysoedd ar hyn o bryd yn cael eu nabod fel y ‘British Indian Ocean Territory’.