Yng ngwobrau’r Oscars neithiwr (Nos Sul, Chwefror 24), Olivia Coleman gipiodd wobr yr actores orau a Green Book wnaeth gipio’r ffilm orau.
Fe lwyddodd Olivia Coleman i ennill yr Oscar am ei rol yn y ffilm The Favourite mewn buddugoliaeth annisgwyl yn y seremoni. Glenn Close oedd y ffefyn i ennill Oscar am The Wife. Ymhlith y rhai eraill gafodd eu henwebu oedd Lady Gaga, Melissa McCarthy a Yalitza Aparicio.
Green Book a enillodd y ffilm orau – sef gwobr fwyaf y noson – mewn cystadleuaeth dynn gyda Roma.
Mae’r ffilm yn dilyn taith cerddor jazz du a’i yrrwr gwyn sydd yn teithio drwy dde’r Unol Daleithiau.
Roedd na lwyddiant i Mahershala Ali a enillodd y wobr am yr actor cynorthwyol gorau am ei rol yn Green Book, ac fe enillodd y ffilm y wobr am y sgript gorau hefyd.
O ran yr actor gorau, Rami Malek ddaeth i’r brig am ei bortread o Freddie Mercury yn Bohemian Rhapsody.
Regina King wnaeth ennill y wobr am yr actores gynorthwyol orau am ei rôl yn If Beale Street Could Talk.
Dyma oedd yr amrywiaeth fwyaf mewn grŵp o enillwyr erioed yn hanes yr Oscars.