Mae cyn-gynhyrchydd teledu’r BBC, Ruth Price, wedi marw yn 95 oed.

Roedd hi’n gyfrifol am ddarganfod rhai o berfformwyr amlycaf Cymru gan gynnwys Meic Stevens, Max Boyce, Iris Williams a Mary Hopkin.

Trwy gynhyrchu nifer o raglenni adloniant poblogaidd, gan gynnwys Disc a Dawn a Hob y Deri Dando cafodd yr artistiaid hyn y cyfle i ddatblygu a chael eu cyflwyno i gynulleidfa Cymru.

Cafodd hi ei geni ym Mathri, Sir Benfro, yn 1924 a symudodd ymlaen i fod yn gynhyrchydd ar ôl treulio ei hamser fel athrawes.

Bu farw yn ei chartref yng Nghaerdydd ar ddydd Sadwrn (Chwefror 23).

Llygad am dalent

Ruth Price oedd yn gyfrifol am ddarganfod Meic Stevens, meddai Hywel Gwynfryn wrth sôn am ei amser yn gweithio iddi, mewn cyfweliad ar y Post Cyntaf ar Radio Cymru fore heddiw (Dydd Llun, Chwefror 25).

“Roedd Meic yn canu llawer iawn yn Llundain, ac roedd o wedi dod yn ôl i Gymru rhyw benwythnos… a rhywsut neu’i gilydd roedd Ruth wedi clywed am y bachgen yma oedd yn wahanol iawn i ddweud y lleia’,” esboniodd.

“Doedd ‘na neb arall yng Nghymru ar yr adeg yna yn canu’n Gymraeg ac yn gwisgo sbectol haul – neb – gan gynnwys Meic Stevens!”

“Cyfraniad mawr iawn”

Soniodd Hywel Gwynfryn am y cyfnod pan fu’n rhaid iddo gyfieithu caneuon Saesneg ar gyfer perfformwyr Disc a Dawn hefyd.

“Be o’dd rhaid i ni wneud oedd gwrando ar Top of the Pops ac ar ddydd Llun fydda hi’n dweud wrtha’ i ‘reit dw i eisiau i chdi gyfieithu Amazing Grace i Iris Williams’,” meddai.

“Es i yn ôl ati a chyfaddef fy mod i wedi methu, ‘ond paid â phoeni’ medde’ hi – ‘dw i ’di cael rhyw foi arall’ – a William Williams Pantycelyn oedd hwnnw.”

“Heb Ruth Price a Disc a Dawn faswn ni ddim wedi cael datblygiad aruthrol fel da’ ni wedi ei gael mewn cerddoriaeth Gymraeg … mae ei chyfraniad hi yn fawr iawn,” ychwanegodd Hywel Gwynfryn.