Mae Christian Bale, yr actor a gafodd ei eni yn Hwlffordd, ymhlith y dynion a fydd yn cystadlu am wobr yr Actor Gorau yn yr Oscars yn Los Angeles heno (nos Sul, Chwefror 24).

Mae e wedi ei enwebu am ei ran yn y ffilm ‘Vice’, lle mae’n chwarae rhan y cymeriad Dick Cheney, cyn-Ddirprwy Arlywydd yr Unol Daleithiau pan oedd George W. Bush wrth y llyw.

Bydd e’n cystadlu yn erbyn Rami Malek (Bohemian Rhapsody), Bradley Cooper (A Star is Born), Viggo Mortensen (Green Book) a Willem Dafoe (At Eternity’s Gate).

Actores Orau

Mae Olivia Colman wedi’i henwebu yng nghategori’r Actores Orau am chwarae’r Frenhines Anne yn ‘The Favourite’, ffilm sydd wedi’i henwebu am ddeg o wobrau.

Bydd hi’n cystadlu yn erbyn Glenn Close (The Wife), Lady Gaga (A Star is Born), Melissa McCarthy (Can You Ever Forgive Me?) a Yalitza Aparicio (Roma).

Dyma’r seithfed tro i Glenn Close gael ei henwebu, ond dydy hi erioed wedi ennill.

Gwobrau actorion cynorthwyol

Mae Rachel Weisz, Emma Stone, Regina King, Amy Adams a Marina de Tavira wedi’u henwebu ar gyfer yr Actores Gynorthwyol Orau.

Ymhlith y dyn, Mahershala Ali, Sam Elliott, Adam Driver, Sam Rockwell a Richard E Grant yw’r rhai sydd wedi’u henwebu ar gyfer gwobr yr Actor Cynorthwyol Gorau.

Pe bai Glenn Close, Rami Malek, Regina King a Mahershala Ali yn ennill, dim ond un person croen gwyn fydd wedi dod i’r brig.

Ffilm Orau

Mae wyth o ffilmiau’n cystadlu am wobr y Ffilm Orau – Black Panther, BlacKkKlansman, Bohemian Rhapsody, The Favourite, Green Book, Roma, A Star is Born a Vice.

Black Panther yw’r ffilm gyntaf ar sail llyfrau comic i gael enwebiad, tra mai Roma yw’r ffilm Netflix gyntaf i gael ei henwebu. Hi, hefyd, fyddai’r ffilm iaith dramor gyntaf i ennill y brif wobr.

Mae Alfonso Cuaron, cyfarwyddwr y ffilm, wedi’i enwebu am wobr y Cyfarwyddwr Gorau, ac fe fydd e’n cystadlu yn erbyn Bradley Cooper (A Star is Born), Adam McKay (Vice), Yorgos Lanthimos (The Favourite), Pawel Pawlikowski (Cold War) a Spike Lee (BlacKkKlansman).

Dim cyflwynydd

Bydd y seremoni heb gyflwynydd am y tro cyntaf ers tri degawd, ar ôl i Kevin Hart gamu o’r neilltu yn dilyn ffrae am negeseuon homoffobig ar wefan gymdeithasol Twitter.

Bydd y sioe yn cael ei chyflwyno gan nifer o enwogion a fydd yn cyflwyno’r gwobrau yn unig, gan gynnwys Daniel Craig, Jennifer Lopez a Chadwick Boseman.

Hefyd yn cyflwyno gwobrau fydd Serena Williams, Queen Latifah a Barbra Streisand.

Bydd Lady Gaga a Bradley Cooper yn canu ‘Shallow’ o’r ffilm A Star is Born.

Bydd Jennifer Hudson yn perfformio I’ll Fight o’r ffilm ddogfen RBG, a bydd David Rawlings a Gillian Welch yn canu When A Cowboy Trades His Spurs For Wings o’r ffilm The Ballad of Buster Scruggs.

Yn ogystal, bydd Bette Midler yn canu The Place Where Lost Things Go o’r ffilm Mary Poppins Returns.

Mae adroddiadau na fydd Kendrick Lamar a SZA bellach yn canu All The Stars o’r ffilm Black Panther.