Mae arlywydd Wcráin, Petro Poroshenki, wedi arwyddo cytundeb sy’n ymrwymo i ymuno â’r Undeb Ewropeaidd a NATO.

Wrth siarad yn Senedd Wcráin, mae Petro Poroshenko yn dweud ei fod yn gweld sicrhau aelodaeth o’r ddau sefydliad fel “ei genhadaeth strategol”.

Mae’r arlywydd, sy’n sefyll am ail dymor pum mlynedd yn etholiadau Mawrth 31, wedi dweud ei fod yn edrych i wneud cais swyddogol i ymuno a’r Undeb Ewropeaidd erbyn 2023.

Er hynny, mae’n cydnabod fod gan Wcráin “ffordd hir” i fynd cyn cyrraedd gofynion y ddau sefydliad.

Mae llywydd Cyngor Ewrop, Donald Tusk, yn dweud “nad oes Ewrop heb Wcráin”.  Fe addawodd na fyddai’r Undeb Ewropeaidd byth yn cymeradwyo goresgyniad Rwsia o Benrhyn Crimea yn yr Wcráin yn 2014, ac y byddai’n cynnal y sancsiynau yn erbyn Mosgow.