Mae prif weinidog Pacistan, Imran Khan, wedi cynnig cynnal trafodaethau gydag India ond yn rhybuddio New Delhi i beidio ymosod ar ei wlad.
Daw hyn yn dilyn y tensiynau cynyddol sydd wedi dod rhwng y ddwy wlad yn dilyn ymosodiad bom car wnaeth ladd 40 o filwyr India yn Kashmir – ardal sydd o dan reolaeth milwyr India.
Dywed Imran Khan ei fod yn gobeithio cael “gwell synnwyr” yn dilyn yr ymosodiad.
Ond os yw India yn ymosod, dywedodd mewn araith ar y teledu na fyddai Pacistan yn unig yn meddwl am ddial, ond yn dial.
Fe gafodd pedwar milwr India, tri eithafwr, swyddog yr heddlu, ac un dinesydd eu lladd ddoe (dydd Llun, Chwefror 18) wrth i filwyr India archwilio’r ardal am eithafwyr.