Mae dynes 35 oed o Sir Benfro, a gafodd ei dal yn gyrru ar ôl derbyn dau waharddiad o fewn tri diwrnod, wedi cael ei charcharu am gyfnod o chwe mis.
Cafodd Victoria Anne James o Neyland ei hatal gan swyddogion yr heddlu yn Johnston ar Chwefror 15, pan gafodd ei char ei feddiannu.
Fe wnaeth yr heddlu ei hatal yr eilwaith dau ddiwrnod yn ddiweddarach ar Chwefror 18, a hynny wrth yrru car gwahanol.
Cafodd ei arestio a’i chyhuddo o dau achos o yrru dan waharddiad a dau achos o yrru heb yswiriant.
Yn ogystal â chyfnod yn y carchar, mae hefyd wedi ei gwahardd rhag gyrru am ddwy flynedd.