Mae disgwyl i’r Cynulliad cyflwyno rheolau newydd heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 19) fydd yn sicrhau cosbau llymach i bobol sy’n cael gwared â’u gwastraff yn anghyfreithlon.
Bydd y rheolau newydd yn ei gwneud hi’n haws i gynghorau a Chyfoeth Naturiol Cymru i gymryd camau yn erbyn deiliaid sydd yn rhoi eu gwastraff i bobol sydd ddim a hawl i’w ddelio ag ef.
Fe all bobol sydd yn rhoi eu gwastraff i rywun, sydd yna’n cael gwared arno yn anghyfreithlon – er enghraifft, ei adael ar ochr y lon – wynebu dirwy sy’n o leiaf £300.
Ar hyn o bryd, mae cosb benodedig i ddeiliaid sydd yn cael gwared ar y gwastraff eu hunain yn anghyfreithlon.
Y llynedd, fe welodd cynghorau Cymru mwy na 35,500 o achosion o’r fath, sydd wedi costio trethdalwyr Cymru £2m i lanhau.
Achosion yn Sir Caerfyrddin
Mae gwerth £1225 o ddirwyon am droseddau’n ymwneud a sbwriel anghyfreithlon wedi cael eu rhoi yn Sir Gaerfyrddin ym mis Ionawr 2019.
Roedd y gosb leiaf ar £75 am faw ci, a’r uchaf ar £400 am fagiau du – achos wnaeth ymddangos yn llys Llanelli ddydd Gwener ddiwethaf (Chwefror 15).
Yno, roedd rhaid i Gemma West o Borth Tywyn, Llanelli, dalu ffî o £400 ar ôl iddi ollwng cyfres o fagiau du tu ôl i lon tu cefn i Stryd Burry y llynedd.
Cafodd hi ei chosbi am dair achos o daflu sbwriel yn anghyfreithlon – un ym mis Mai, un ym mis Medi ac yna un arall ym mis Hydref.
“Cost enfawr i’r trethdalwr”
“Mae hwn yn gam rwy’n croesawu gan fod sbwriela’n anghyfreithlon yn cyflwyno cost enfawr i’r trethdalwr yng Nghymru,” meddai’r Gweinidog Cysgodol dros yr Amgylchedd, Andrew RT Davies.
“Bydd gorfodaeth yn hollbwysig wrth fynd i’r afael a hyn, ond gyda Llywodraeth Lafur yn torri ar gyllid llywodraeth leol ac Adnoddau Naturiol Cymru ym Mae Caerdydd, mae yna ychydig o amheuaeth bod digon o draed ar y ddaear i orfodi’r cosbau hyn,” ychwanegodd.
“Serch hynny, mae hwn yn gam i’r cyfeiriad cywir ac rydym yn aros i weld a yw hyn yn mynd i’r fynd i afael â’r epidemig anghyfreithlon yma yng Nghymru yn llwyddiannus.”