Mae Comisiwn Ewrop wedi rhybuddio na fydd trafod pellach ar Ogledd Iwerddon wrth i Theresa May baratoi am drafodaethau pellach yn Brwsel.
Bydd Theresa May yn cyfarfod arlywydd Comisiwn Ewrop, Jean-Claude Juncker ym mhrifddinas gwlad Belg yfory (dydd Mercher, Chwefror 20).
Mae’r cyfarfod yn dilyn trafodaethau ddoe (dydd Llun, Chwefror 18) rhwng prif negodwr yr Undeb Ewropeaidd, Michael Barnier, ac Ysgrifennydd Brexit gwledydd Prydain, Stephen Barclay, a’r Twrnai Cyffredinol, Geoffrey Cox.
Mae Stephen Barclay wedi disgrifio’r trafodaethau ar ‘backstop’ Gogledd Iwerddon fel rhai “cynhyrchiol”.
Er hynny, dydi’r Undeb Ewropeaidd ddim yn barod i roi mewn i ofynion Theresa May – naill a’i i gynnwys cymal ymadael neu derfyn amser ar y cytundeb wrth gefn.
“Ni fydd yr Undeb Ewropeaidd yn ail-agor y drafodaeth ar y cytundeb. Ni allwn dderbyn terfyn amser i’r cytundeb wrth neu gymal ymadael unochrog,” meddai Margartis Schinas.
“Rydyn ni’n gwrando ac yn gweithio gyda Llywodraeth gwledydd Prydain i weld sut y gallwn ni weithio ar ymadawiad trefnus gwledydd Prydain o’r Undeb Ewropeaidd ar Fawrth 29. Dyna le ydyn ni.”