Fe fydd heddlu gwrth-frawychiaeth gwledydd Prydain yn archwilio ac yn cwestiynu Shamima Begum, y ferch ysgol a adawodd i ymuno ag ISIS yn Syria, os yw hi’n dychwelyd.
Dywed Comisiynydd Heddlu’r Met, Cressida Dick, y dylai’r ferch 19 oed ddisgwyl “sgwrs” os yw hi’n dod yn ôl.
Fe adawodd y ferch ei chartref yn Llundain yn 2015 i ymuno ag ISIS yn Syria – ond mae hi nawr eisiau dychwelyd yn ôl i wledydd Prydain er lles ei trydydd plentyn gafodd ei eni ar y penwythnos.
Mae hi eisoes wedi colli dau o blant.
“Os bydd hi, o dan unrhyw amgylchiadau, yn cyrraedd ein ffiniau, gallai rhywun yn ei math o amgylchiadau ddisgwyl sgwrs, ac os oes angen, ei harestio ac yn sicr ei harchwilio,” meddai Cressida Dick.
“Os yw hynny’n arwain at dystiolaeth ddigonol am erlyniad yna bydd yn arwain at dystiolaeth ddigonol am erlyniad.
Does dim cynlluniau ar hyn o bryd i newid y gyfraith i wneud teithio i fannau terfysg arbennig yn drosedd, ond ni fydd hyn yn berthnasol i Shamima Begum.
Y gred yw bod o gwmpas 425 o ymladdwyr jihadi honedig wedi dychwelyd i wledydd Prydain o Syria hyd yn hyn.