Mae heddlu yn Papua New Guinea yn chwilio am 275 o geir moethus sydd wedi diflannu.

Fe ddigwyddodd yn dilyn cynhadledd Cydweithrediad Economaidd Asia a’r Môr Tawel (Apec) ym mis Tachwedd y llynedd.

Cafodd Llywodraeth Papua New Guinea eu beirniadu gan ei drigolion ar yr adeg am brynu 40 o geir Maserati drud i yrru arweinwyr y byd o gwmpas yn ystod y gynhadledd.

Er bod y Maseratis wedi cael eu darganfod, nid oes golwg o’r lleill.

Ers y gynhadledd, mae milwyr a’r heddlu wedi blocio adeiladau’r llywodraeth ac wedi gorfodi eu hunain mewn i’r Senedd mewn ffrae dros ddiffyg tal i’r gwasanaethau diogelwch yn ystod y gynhadledd.

Roedd llawer wedi eu cythruddo gyda faint o arian oedd wedi cael ei wario ar y gynhadledd a’r wlad o saith miliwn gydag anghenion ehangach i’w datrys.

Mae ei phrifddinas, Port Moresby, wedi cael ei ddisgrifio gan y World Bank fel un o’r dinasoedd mwyaf treisgar yn y byd o ganlyniad i ddiweithdra a gangiau sydd yn mynd o dan yr enw “raskols.”

Mae meddyginiaethau sylfaenol yn brin ym Mhapua New Guinea ac mae’r clefyd polio wedi dychwelyd.