Nid fydd Dug Caeredin yn wynebu unrhyw gyhuddiadau yn dilyn y ddamwain traffig ar ffordd brysur ger Sandringham yn Norfolk fis diwethaf.

Dywed y Prif Erlynydd ar ran y Goron yn Lloegr, Chris Long, ei fod wedi dod i’r penderfyniad na fydd erlyn gŵr y Frenhines o fudd i’r cyhoedd.

Mae llefarydd ar ran Palas Buckingham wedi dweud bod y Tywysog Philip yn parchu’r penderfyniad hwnnw.

Bu ffrae fawr yn dilyn y ddamwain ar ffordd yr A149 yn Swydd Norfolk ar Ionawr 17, pan wrthdrawodd Land Rover Freelander y Dug â char arall. Roedd babi naw mis oed yn y car ar y pryd.

Ers y digwyddiad, mae’r Tywysog Philip wedi ildio’i drwydded yrru, ond mae dal hawl ganddo i yrru ar dir y stadau brenhinol preifat.