Mae ffigyrau amlwg yn y byd pêl-droed wedi bod yn rhoi teyrngedau i gyn-hyfforddwr tîm ieuenctid Manchester United a chyn-is hyfforddwr Cymru, Eric Harrison, a fu farw yn 81 oed.
Cafodd y gŵr a oedd yn hanu o Orllewin Efrog ei wneud yn hyfforddwr ar chwaraewyr ifanc y clwb o Fanceinion yn 1981, ac ymhlith ei ddisgyblion cynnar oedd Mark Hughes, Norman Whiteside a Wes Brown.
Daeth yn fwyaf enwog yn sgil llwyddiant ei dîm yn ystod yr 1990au cynnar, gyda’r tîm sy’n cael ei adnabod hyd heddiw yn ‘Ddosbarth 92’. Roedd y tîm hwnnw’n cynnwys unigolion fel David Beckham, Paul Scholes, Nicky Butt a phrif hyfforddwr presennol Cymru, Ryan Giggs.
Yn ddiweddarach, bu Eric Harrison yn is-hyfforddwr Cymru am bedair blynedd, a hynny tra oedd Mark Hughes wrth y llyw.
Is-hyfforddwr Cymru
Yn arwain y teyrngedau o Gymru mae cyn-ymosodwr Cymru, John Hartson, sy’n disgrifio’r cyn-is hyfforddwr yn “ddyn hyfryd”.
“Mor flin i glywed am golli Eric Harrison,” meddai ar Twitter. “Fe wnes i weithio gydag Eric pan oedd yn ddirprwy Mark Hughes gyda thîm cenedlaethol Cymru.“
Mae cyn-amddiffynwr Cymru a’r sylwebydd, Dany Gabbidon, hefyd wedi rhannu rhai o’i atgofion am gyfnod Eric Harrison gyda Chymru.
“Roeddech chi wastad yn teimlo ei fod yn gwylio pob symudiad a byth yn colli unrhyw dric, felly roeddech chi’n gwneud yn siŵr nad oeddech chi’n camu allan o le,” meddai.
“Roedd ganddo rôl a oedd yn fwy yn y cefndir o dan Sparky, ond roedd ei bresenoldeb yn cael ei deimlo’n fawr gan y chwaraewyr.”
“Un o hyfforddwyr gorau ein cyfnod”
Yn ôl David Beckham, un o aelodau enwocaf ‘Dosbarth 92’, mae’n dal i gofio’r ceryddon a’r canmoliaethau a dderbyniodd yntau a’i gyd-chwaraewyr gan gyn-hyfforddwr tîm ieuenctid Manchester United.
“Yn fwy na dim, fe ddysgodd inni sut i weithio’n galed ac i barchu ein gilydd, a hynny nid ar y cae yn unig,” meddai. “Ni wnawn ni fyth anghofio’r gwersi bywyd a roddodd inni.”
Dywed cyn-hyfforddwr Manchester United, Alex Ferguson, fod ei hen gydweithiwr yn “un o hyfforddwyr gorau ein cyfnod”.
“Ar lefel bersonol, roedd gan Eric hiwmor drygionus, sych ac roedd yn barod ei dafod,” meddai wedyn. “Roeddwn i’n edmygu hynny ynddo.”