Leeds 2–1 Abertawe
Colli fu hanes Abertawe wrth iddynt deithio i Elland Road i wynebu Leeds yn y Bencampwriaeth nos Fercher.
Ildiodd yr Elyrch ddwywaith yn yr hanner cyntaf gan olygu mai rhy ychydig rhy hwyr a oedd cic o’r smotyn hwyr Oli McBurnie.
Rhoddodd Pontus Jansson y tîm cartref ar y blaen wedi ugain munud, yn ymateb yn gynt na neb wedi i gynnig gwreiddiol Ezgjan Alioski gael ei atal.
Roedd Alioski yn ei chanol hi eto wrth i Jack Harrison ddyblu’r fantais chwarter awr yn ddiweddarach, y gŵr o Facedonia’n creu i’r blaenwr ifanc.
Newidiodd Graham Potter bethau yn yr ail hanner ac fe greodd ei eilyddion argraff. Enillodd Joel Asoro gic o’r smotyn ac fe rwydodd McBurnie hi ond nid oedd digon o amser ar ôl i’r Elyrch achub pwynt.
Mae’r canlyniad yn gadael Abertawe’n ddeuddegfed yn y tabl, saith pwynt o’r safleoedd ail gyfle.
.
Leeds
Tîm: Casilla, Ayling, Jansson, Cooper, Alioski, Phillips, Henandez (Davis 90+1’), Roofe, Klich (Shackleton 77’), Harrison, Bamford (Roberts 71’)
Goliau: Jansson 20’, Harrison 34’
Cerdyn Melyn: Harrison 90+4’
.
Abertawe
Tîm: Mulder, Naughton, van der Hoorn, Carter-Vickers, Grimes, Roberts, Fulton (Asoro 56’), Byers, James (Narsingh 68’), McKay (McBurnie 61’), Celina
Gôl: McBurnie [c.o.s.] ]87’
.
Torf: 34,033