Mae tîm pêl-droed Abertawe’n mynd am fuddugoliaeth fawr heno (nos Fercher, Chwefror 13, 7.45yh), wrth iddyn nhw deithio i herio Leeds yn y Bencampwriaeth.
Dydyn nhw ddim wedi curo’r gwrthwynebwyr ar eu tomen eu hunain ers 1949 – cyfanswm o 13 o golledion a thair gêm gyfartal.
Ond mae’n amser da i’r Elyrch fynd yno, ar ôl colli dim ond unwaith yn eu naw gêm diwethaf ar draws y gynghrair a’r gwpan y tymor hwn.
Maen nhw chwe phwynt yn unig islaw’r safleoedd ar gyfer y gemau ail gyfle yn y tabl.
Mae Leeds, yn y cyfamser, yn ail yn y tabl wrth iddyn nhw geisio dychwelyd i Uwch Gynghrair Lloegr am y tro cyntaf ers 15 mlynedd.
Dim ond dwywaith maen nhw wedi ennill yn eu wyth gêm diwethaf ar draws y gynghrair a’r gwpan.
Tîm Abertawe
Mae amheuon ar hyn o bryd a fydd yr ymosodwr Oli McBurnie (salwch), y cefnwr chwith Declan John (ffêr) a’r asgellwr Wayne Routledge (croth y goes) yn holliach.
Mae’r capten Leroy Fer allan o hyd, wrth iddo barhau i wella o anaf i linyn y gâr.
Elland Road
Yn ôl yr amddiffynnwr canol Cameron Carter-Vickers, fe fydd yr awyrgylch yn Elland Road yn her i’r Elyrch.
“Pryd bynnag rydych chi’n chwarae yn Elland Road, mae’n awyrgylch da ac maen nhw’n cefnogi’r tîm, felly ein tasg ni fydd eu tawelu nhw a rhoi hwb i’n cefnogwyr ni.
“Dyma’r math o awyrgylch rydych chi am chwarae ynddo.
“Dim ond ein hysbrydoli ni wnaiff caeau mawr a thorfeydd uchel eu cloch. Rhaid i ni gael ein hysgogi gan hynny yn ystod y gêm.”
Dyma’r tro cyntaf i Abertawe a Leeds herio’i gilydd ers y ffenest drosglwyddo, pan oedd y Saeson yn cwrso’r Cymro Daniel James yn dilyn ffrae tros gyhuddiadau fod rheolwr Leeds, Marcelo Bielsa yn ysbïo ar wrthwynebwyr.