Mae papur newydd yn Detroit yn dweud bod awdurdodau’r Unol Daleithiau wedi sefydlu prifysgol ffug er mwyn dal myfyrwyr o India sydd yn torri amodau eu fisa.

Mae llywodraeth India’n dweud eu bod nhw’n cadw llygad ar y sefyllfa, gan alw ar yr awdurdodau i beidio ag estraddodi’r myfyrwyr.

Mae hyd at 129 o fyfyrwyr wedi’u cadw yn y ddalfa ers dydd Mercher, wedi iddyn nhw gofrestru ar gyfer y brifysgol, meddai’r wasg yn India.

Mae llywodraethau India a’r Unol Daleithiau’n trafod y sefyllfa, ac mae India’n galw am ryddhau’r myfyrwyr ar unwaith.