Fe fydd dioddefwyr troseddau treisgar yn cael yr hawl i herio penderfyniadau i ryddhau troseddwyr, yn dilyn adolygiad a gafodd ei sbarduno gan achos llys y gyrrwr tacsis John Worboys.

Yn hytrach na gorfod gwneud cais i’r Bwrdd Parôl, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd, fe fydd dioddefwyr yn gallu gwneud cais yn uniongyrchol i Ysgrifennydd Cyfiawnder San Steffan i wrthwynebu penderfyniad o fewn 21 diwrnod.

Ond fe fydd y drefn newydd yn berthnasol i droseddwyr treisgar sydd wedi’u dedfrydu i gyfnod hir o garchar yn unig.

John Worboys

Cafodd John Worboys ei ryddhau o’r carchar y llynedd yn dilyn bron i ddegawd dan glo.

Cafodd ei ddedfrydu i gyfnod amhenodol o garchar yn 2009, ac fe gafodd wybod y byddai’n rhaid iddo dreulio o leiaf wyth mlynedd dan glo.

Cafwyd e’n euog o 19 o droseddau treisgar yn erbyn menywod, gan gynnwys treisio 12 o fenywod.

Fis Ionawr y llynedd, fe ddaeth i’r amlwg fod y Bwrdd Parôl wedi penderfynu y gallai John Worboys adael y carchar.

Cafodd y penderfyniad hwnnw ei wyrdroi gan yr Uchel Lys ddeufis yn ddiweddarach, yn dilyn her gyfreithiol gan ddwy ddynes.

Penderfynodd panel ar ddiwedd gwrandawiad newydd fod rhaid iddo aros dan glo.

‘Adfer hyder y cyhoedd’

“Bydd y diwygiad nodedig hwn, am y tro cyntaf, yn rhoi’r grym i ddioddefwyr ddal y Bwrdd Parôl yn atebol am ei benderfyniad ac yn helpu i adfer hyder y cyhoedd yn y gwaith pwysig mae’n ei wneud,” meddai David Gauke, Ysgrifennydd Cyfiawnder San Steffan.

Bydd y drefn newydd yn canolbwyntio ar “anghyfreithlondeb, afresymoldeb ac annhegwch y drefn”, meddai’r Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Y cam cyntaf fyddai gwneud cais a fydd yn cael ei ystyried gan y Gwasanaeth Carchardai a Phrawf, cyn trosglwyddo’r achos i farnwr y Bwrdd Parôl. Byddai hwnnw wedyn yn gofyn i’r panel ystyried y penderfyniad gwreiddiol neu’n gorchymyn fod gwrandawiad newydd yn cael ei gynnal.

O dan y drefn newydd, byddai achos John Worboys yn cael ei ystyried yn unol ag “annhegwch yn y drefn”.