Mae awdurdodau Sbaen wedi trosglwyddo naw o wleidyddion ac ymgyrchwyr o Gatalwnia i’r brifddinas, Madrid, heddiw (Dydd Gwener, Chwefror 1).

Maen nhw’n wynebu achos llys am hyrwyddo’r achos tros annibyniaeth i Gatalwnia.

At ei gilydd maen nhw’n wynebu hyd at 25 mlynedd yn y carchar am bwyso am refferendwm anghyfreithlon i fod yn annibynnol o Sbaen.

Does dim dyddiad i’r gwrandawiad eto, ond fe orchmynnodd y barnwr Manuel Marchena iddyn nhw gael eu symud yn agosach i’r Oruchaf Lys yn Madrid erbyn Chwefror 2.

Yn gynnar heddiw roedd heddlu rhanbarthol Catalwnia wedi hebrwng y saith dyn a dwy ddynes o dri charchar gwahanol i garchar Briands 2.

Mae tri arall wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth.