Mae llys apêl yn yr Almaen wedi gwrthod cwyn gan Iddew ynghylch penderfyniad tref i gadw cloch eglwys sy’n cynnwys enw Adolf Hitler.
Roedd y dyn Iddewig sy’n berthynas i un o oreswyr yr Holocost yn dweud bod y gloch yn “gwawdio ac yn amharchu” y rheiny a ddioddefodd o dan law haearn arweinydd y Natsïaid.
Fe bleidleisiodd cyngor Herxheim am Berg y llynedd o blaid adfer y gloch, sy’n cynnwys yr arysgrif: “Everything For The Fatherland – Adolf Hitler above the swastika”.
Roedden nhw hefyd wedi cyhoeddi cynlluniau i osod plac gerllaw yn cynnwys gwybodaeth am gyd-destun hanesyddol y crair, gyda’r gobaith o annog pobol i gychwyn sgwrs am drais ac anghyfiawnder.
Yn ôl Llys Taleithiol Koblenz, a wrthododd gŵyn yr Iddew, dydy’r dref ddim yn euog o geisio anwybyddu’r Holocost.