Mae Gweinidog y Gymraeg Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau na fydd Saesneg yn cael ei orfodi ar blant bach mewn ysgolion meithrin yng Nghymru.
Daw hyn yn dilyn beirniadaeth gan wleidyddion ac ymgyrchwyr iaith ynghylch papur gwyn y Llywodraeth sy’n nodi y bydd rhaid i addysg sydd wedi’i chyllido ddysgu Saesneg fel elfen orfodol o’r cwricwlwm.
Mae hyn i’r gwrthwyneb i’r drefn bresennol, lle mae modd ei dysgu’n raddol ar ôl saith oed.
Ond wrth ymateb i gwestiwn ar lawr Siambr y Cynulliad heddiw (dydd Mercher, Ionawr 30), fe ddywedodd Eluned Morgan y bydd y trefniadau fel y maen nhw ar hyn o bryd “heb eu newid” o dan y cwricwlwm newydd.
“Dw i’n meddwl ei bod hi’n well i ni danlinellu’r ffaith ein bod ni’n deall bod trochi cyfrwng Cymraeg yn hanfodol o ran gwireddu ein gweledigaeth ni ar gyfer miliwn o siaradwyr,” meddai.
“Dw i wedi cael fy sicrhau gan y Gweinidog Addysg [Kirsty Williams] y bydd y trefniadau trochi Cymraeg presennol – y rhai sy’n cael eu darparu gan fudiadau fel y [Mudiad] Meithrin – yn parhau heb eu newid fel rhan o’r cwricwlwm newydd yma.”