Mae’r llywdoraeth wedi cau mwy na 400 o ysgolion ym mhrifddinas Gwlad Thai, am weddill yr wythnos, oherwydd ofnau bod lefelau peryglus o uchel o lygredd yn yr aer yn Bangkok.

Mae prif weinidog y wlad, Prayuth Chan-ocha, wedi gorchymyn bod 437 yn anfon plant adref, nes bod y sefyllfa’n cael ei hasesu eto ddydd Llun nesaf (Chwefror 4).

Y gred ydi mai awyr lonydd a thraffig trwm sydd i gyfrif am y llygredd.