Mae cynlluniau ar y gweill i roi 400 o blismyn yn eu lle yn yr Alban i ddelio â chanlyniadau Brexit, ond mae rhybudd y gallai achosi ansefydlogrwydd ariannol i’r heddlu.

Daw’r rhybudd gan Iain Livingstone, Prif Gwnstabl Heddlu’r Alban, sy’n galw am roi mwy o arian i fynd i’r afael â’r sefyllfa. Fe wnaeth y sylwadau gerbron cyfarfod o Awdurdod Heddlu’r Alban.

Mae’r cynlluniau yn eu lle, meddai, er mwyn paratoi am “y sefyllfa waethaf bosib” wrth i Brydain baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd, sydd yn digwydd yn groes i ddymuniad y rhan fwyaf o drigolion y wlad.

Fe allai’r problemau sy’n deillio o Brexit gynnwys ymddygiad yn groes i’r drefn gyhoeddus mewn porthladdoedd a meysydd awyr, a gorfod cynnig cymorth i rannau eraill o wledydd Prydain, gan gynnwys Gogledd Iwerddon.

Fe fydd rhaid cyflogi 100 o blismyn ychwanegol, meddai, a gwneud tro pedol ar gynlluniau i golli 300 o blismyn, oedd yn cael ei grybwyll er mwyn arbed £12.6m.

Bygythiad i gynaladwyedd ariannol

“Fe fydd bygythiad i’r cynaladwyedd ariannol sydd angen i ni ei sicrhau yn sgil rhai o’r penderfyniadau gweithdrefnol y bydd rhaid i fi eu gwneud ynghylch Brexit,” meddai.

“Mae yna risg sylweddol, heb arian ychwanegol, y bydd y gyllideb yn arwain at fwy o ddiffyg na’r hyn a gafodd ei nodi eisoes pe bai nifer y swyddogion yn aros ar y lefel bresennol.

“Yn yr ystyr yma, mae’n bwysig pwysleisio’n gyhoeddus nad yw canlyniadau Brexit eto wedi arwain at gyllid ychwanegol angenrheidiol yn cael ei rhoi i heddlu’r Alban.

“Fy mlaenoriaeth o hyd fydd sicrhau bod trigolion yr Alban yn cael eu gwarchod, eu plismona a’u cadw’n ddiogel.”