Mae ysgolion a ffyrdd i’r gogledd o Aberystwyth yn dal i fod yn drafferthus i’w tramwyo heddiw yn sgil eira.

Mae rhybudd melyn i Gymru gyfan wedi bod mewn grym rhwng canol nos ac 11 fore heddiw (dydd Mercher, Ionawr 30).

Mae’r tywydd ar ei waethaf ar yr A470 (Dinas Mawddwy) a’r A487 ger Machynlleth, ond mae ceir yn sownd ar yr A44 yn Aberystwyth hefyd.

Mae rhybudd hefyd i deithwyr osgoi ardal Blaenau Ffestiniog yn gyfan gwbwl.

Ac yn y de… 

Mae peth eira yn y de hefyd, yn enwedig yn ardal Rhigos yn Rhondda Cynon Taf, ar ffordd A4061. Mae rhybudd y gallai trafnidiaeth gyhoeddus gael ei heffeithio.

Mae’r Swyddfa dywydd yn darogan eira o hyd at bump centimetr mewn rhai ardaloedd ar dir uchel – gyda rhai ardaloedd yn wynebu’r posibilrwydd o hyd at 10cm.

Mae rhybudd am rew mewn rhai ardaloedd hefyd o ganlyniad i’r glaw trwm, a bydd rhybudd melyn am eira a rhew yn ei le rhwng 3 o’r gloch prynhawn fory (dydd Iau, Ionawr 31) a 12 o’r gloch ddydd Gwener (Chwefror 1).