Mae labordy tanwydd niwclear yn Japan, yn dweud bod plwtoniwm wedi bod yn gollwng o ran o’r adeilad.
Mae’r safle, sy’n cael ei redeg gan wladwriaeth Japan, yn pwysleisio mewn datganiad nad oes yr un gweithiwr wedi dod i gysylltiad gyda’r tanwydd ymbelydrol.
Fe seiniodd larwm wedi i naw o weithwyr newid y gorchuddion ar ddau gynhwysydd lle’r oedd cymysgedd o blwtoniwm ac wraniwm yn cael ei gadw. Roedd pob un o’r gweithwyr yn gwisgo masg, meddai’r awdurdodau, ac fe redon nhw i ystafell arall yn syth ar ôl cael y rhybudd.
Mae achos y ddamwain yn destun ymchwiliad, er nad yw enw’r safle wedi’i gyhoeddi eto.