Mae dyn wedi torri’i goes mewn damwain yn ystod cwump eira ar yr Wyddfa.

Fe gafodd y gŵr ei achub oddi ar y llethrau gan wirfoddolwyr o Lanberis gyda chymorth tîm achub yr RAF a gwylwyr y glannau brynhawn ddoe (dydd Mawrth, Ionawr 29).

Roedd y dringwr wedi mynd yn sownd mewn hafn yn llawn eira.

Mae’r awdurdodau yn gofyn i bobol fod yn ofalus am fynd i ddringo yn yr eira, ac i wisgo dillad cynnes iawn, yn defnyddio crampons a bwyelli rhew ar gyfer mynd ar y llethrau.

Mae yna rybuddion hefyd yn erbyn dibynnu gormod ar fapiau electronig neu fapiau ar ffôn, a’r cyngor ydi i fynd â chwmpawd a mapiau papur.

Mae rhybudd melyn gan y Swyddfa Dywydd ar gyfer ardal Llanberis tan 8yh nos Wener (Chwefror 1).