Mae cwmni bancio Lloyds wedi cyhoeddi y bydd 270 o swyddi’n cael eu torri, wrth iddyn nhw addasu i ateb gofynion cwsmeriaid cyfoes.
Mae disgwyl i’r toriadau ddigwydd oddi fewn i dimau cefnogi a systemau y banc – yn hytrach na phobol sy’n delio â chwsmeriaid – a’r bwriad ydi torri cyfanswm o 490 o swyddi tra’n creu 220 o swydd newydd.
Mae undeb llafur Unsain wedi disgrifio’r toriadau fel rhai “gwarthus”.
“Mae’r swyddi newydd yn rhan o gynlluniau gwerth £3bn fydd yn digwydd dros y tair blynedd nesa’ er mwyn buddsoddi mewn pobol a thechnoleg,” meddai llefarydd ar ran Lloyds.
“Dyma ein buddsoddiad mwya’ erioed yn y bobol sy’n gweithio i ni, ac mae’n golygu cynyddu nifer yr oriau hyfforddi i 4.4 miliwn o oriau yr wythnos.
“Polisi y grŵp ydi symud pobol o un adran i’r llall, fel ein bod ni’n gallu cadw eu harbenigedd a’u gwybodaeth oddi fewn i’r grŵp.”