Mae dyn 25 oed wedi cael ei arestio dan amheuaeth o fod â chysylltiadau brawychol yn Syria.

Mae Scotland Yard wedi cadarnhau fod y dyn wedi’i arestio yn ystod cyrch gan swyddogion adain gwrth-frawychiaeth Heddlu’r Met heddiw (dydd Mercher, Ionawr 30).

Mae’r tŷ lle cafodd ei arestio yn cael ei archwilio ar hyn o bryd.