Mae tri o ddynion wedi ymddangos gerbron y llys wedi’u cyhuddo o ladd swyddog diogelwch yn ystod parti ar ddiwrnod cynta’r flwyddyn.

Roedd Tudor Simionov, 33, yn gweithio y tu allan i’r digwyddiad preifat yn Fountain House yn Park Lane, Llundain, pan gafodd ei drywanu ar Ionawr 1 am tua 5.30yb.

Fe ymddangosodd Haroon Akram, 25, Adham Khalil, 20, ac Adham Elshalakany, 23, gerbron Llys Ynadon Westminster heddiw (dydd Mercher, Ionawr 30).

Mae pob un o’r tri wedi cael eu cyhuddo o un achos o lofruddiaeth, pedwar achos o achosi niwed corfforol difrifol ac un achos o anhrefn treisgar.

Bydd y tri yn cael eu cadw yn y ddalfa cyn y mae disgwyl iddyn nhw ymddangos gerbron yr Old Bailey ddydd Gwener (Chwefror 1).