Mae un o gyn-chwaraewyr Clwb Pêl-droed Casnewydd wedi’i arestio ar amheuaeth o baratoi bachgen 16 oed ar gyfer gweithgarwch rhywiol.

Fe gafodd Peter Howey, ffisiotherapydd 60 oed Clwb Pêl-droed Sunderland erbyn hyn, ei arestio ar ôl trefnu i gyfarfod â’r bachgen.

Mae’r clwb yn dweud eu bod nhw wedi ei wahardd o’i waith ar unwaith ar ôl cael gwybod.

Mae e wedi’i ryddhau gan yr heddlu dan ymchwiliad.