Mae Wilfried Bony, ymosodwr Abertawe, ar ei ffordd i Qatar wrth i’r dyfalu am ei ddyfodol yn Stadiwm Liberty barhau.

Daeth cadarnhad gan Graham Potter, rheolwr yr Elyrch, wedi’r gêm gyfartal 3-3 yn erbyn Birmingham neithiwr (nos Fawrth, Ionawr 29) ei fod e ar awyren.

Ond does dim sicrwydd ar hyn o bryd a fydd e’n ymuno â chlwb Al-Arabi ar fenthyg neu’n barhaol.

“Dw i’n credu mai symud ar fenthyg fydd e,” meddai Graham Potter.

Gyrfa

Fe symudodd yr ymosodwr o’r Côte d’Ivoire i Abertawe o glwb Vitesse Arnhem yn 2013, gan sgorio 26 gôl mewn 54 gêm yn ei gyfnod cyntaf gyda’r clwb.

Ond fe symudodd wedyn i Manchester City, gan sgorio chwe gôl yn unig mewn 36 o gemau, cyn symud ar fenthyg i Stoke yn 2016. Sgoriodd e ddwy gôl mewn 10 gêm yn y fan honno.

Ers dychwelyd i Abertawe yn 2017, mae e wedi sgorio tair gôl mewn 22 o gemau, gan gynnwys un gôl mewn saith gêm y tymor hwn.

Wrth i’r perchnogion bwysleisio’r angen i arbed arian, roedd cryn ddyfalu y gallai Wilfried Bony adael am ei fod yn ennill hyd at £120,000 yr wythnos