“Mae pethau pwysicach na gêm bêl-droed,” meddai Neil Warnock, rheolwr tîm Caerdydd ar ôl y golled o 2-1 yn erbyn Arsenal neithiwr (nos Fawrth, Ionawr 29) – eu gêm gyntaf ers i’r ymosodwr newydd Emiliano Sala fynd ar goll.

Roedd yr Archentwr ar ei ffordd o Lydaw i Gymru yr wythnos ddiwethaf pan aeth ei awyren ar goll dros y Sianel. Does neb wedi ei weld e na’r peilot David Ibbotson ers hynny.

Sgoriodd Pierre-Emerick Aubameyang o’r smotyn ac Alexandre Lacazette i roi mantais i’r Saeson, cyn i Nathaniel Mendez-Laing sgorio gôl gysur yn hwyr yn y gêm.

“Siaradon ni am y peth cyn y gêm – y dylen ni geisio perfformio er lles Emiliano,” meddai Neil Warnock. “Dw i’n gwybod ein bod ni wedi colli gêm bêl-droed, ond mae pethau pwysicach.

“Alla i ddim egluro sut mae’r wythnos hon wedi bod. Dw i ddim wir wedi bod eisiau codi o’r gwely, oherwydd rydych chi’n gwybod beth sy’n dod.

“Roedd popeth yn ddiflas iawn. Doedd neb yn gallu gwneud unrhyw beth am y peth.”

Y cefndir

Ddeuddydd ar ôl sicrhau trosglwyddiad gwerth £15m o Nantes i Gaerdydd, aeth awyren Emiliano Sala ar goll dros ynysoedd y Sianel.

Daeth y chwilio swyddogol i ben ddydd Iau diwethaf, ond mae digon o arian wedi’i godi fel bod modd i’r teulu barhau i chwilio ar eu liwt eu hunain.

Wrth dalu teyrnged iddo neithiwr, cafodd enw Emiliano Sala ei gynnwys ar restr chwaraewyr Caerdydd yn y rhaglen swyddogol yn Arsenal, gyda chenhinen pedr yn ymyl ei enw, ac roedd mascot yr Adar Gleision yn gwisgo crys yn dwyn ei enw.

Roedd baner cefnogwyr yn dweud ‘Wnaethon ni fyth dy weld yn chwarae na sgorio, ond Emiliano, ein Aderyn Glas hard, byddwn ni’n dy garu di am byth’.

Trosglwyddiadau

Mae Neil Warnock yn dweud ei bod yn annhebygol y bydd Caerdydd yn chwilio am ymosodwr newydd cyn i’r ffenest drosglwyddo gau nos yfory (nos Iau, Ionawr 31).

Ond mae’n dweud y gallen nhw geisio arwyddo “un neu ddau amddiffynnwr”.