Mae gwasanaeth tân Brasil yn parhau i chwilota yng nghanol mwd am oroeswyr neu gyrff ar ôl i argae ddisgyn yn rhanbarth Minas Gerais yn ne-ddwyrain y wlad.
Daeth cadarnhad bod y nifer o farwolaethau wedi cyrraedd 65, a’r nifer sydd ar wedi cyrraedd 279 ers dydd Sul (Ionawr 27).
Cafodd adeiladau’r cwmni mwyngloddio Vale eu claddu o ganlyniad, yn ogystal â thai cyfagos eu chwalu gan y gorlifo.
Ni chafwyd hyd i unrhyw oroeswyr ar ddydd Sul, sy’n wahaniaeth clir i gymharu â’r deuddydd cynt ar ôl i hofrenyddion achub pobol o’r mwd.
Mae’r môr o fwd browngoch yn cael effaith estynedig ar ymdrechion i achub mwy o bobol, sydd hyd ar 24 troedfedd o ddyfnder mewn rhai llefydd.
Vale yw cynhyrchydd mwyaf o’r byd o fwyn haearn, sy’n cael ei ddefnyddio i wneud dur. Fe ddisgynnodd cyfranddaliadau’r cwmni 15.8% yng Nghyfnewidfa Stoc Efrog Newydd ar ddydd Llun (Ionawr 28).