Mae Adran Cyfiawnder yr Unol Daleithiau yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn cwmni technoleg Tsieina, Huawei.

Y cyhuddiad yw bod dau o’i is-gwmnïau ac uwch weithredwr wedi camarwain banciau’r Unol Daleithiau am fusnes y cwmni.

Mewn achos arall mae Huawei hefyd wedi cael ei gyhuddo o ddwyn cyfrinachau masnach gan gwmni ffonau T-Mobile.

Mae’r cwmni yn gwadu eu bod wedi torri unrhyw reolau wrth i erlynwyr yr Unol Daleithiau geisio alltudio prif swyddog ariannol y cwmni, Meng Manzhou, sy’n cael ei gyhuddo o dwyllo banciau ynglŷn â busnes y cwmni yn Iran.

Yn ôl yr erlynwyr fe ddefnyddiodd Huawei gwmni yn Hong Kong o’r enw Skycom i werthu offer yn Iran, oedd yn mynd yn erbyn rheolau masnach yr Unol Daleithiau.

Huawei yw’r cyflenwr mwyaf o offer rhwydwaith technolegol y byd, ac mae’n cael ei ddefnyddio gan gwmnïau ffôn a’r rhyngrwyd.

Mae’r cwmni hefyd wedi cael ei weld fel platfform ar gyfer ysbïwyr byddin Tsieina.