Mae dros 30,000 o ddisgyblion a myfyrwyr wedi ymuno â gorymdaith yng ngwlad Belg tros yr amgylchedd.
Rhai miloedd o ddisgyblion ysgol wnaeth ddechrau’r gwrthdystio yn ninas Brwsel, a bellach mae myfyrwyr prifysgol wedi ymuno â nhw.
Mae’r bobol ifanc wedi bod yn protestio yn ystod amser ysgol, ond mae sawl sefydliad wedi caniatáu i’w disgyblion gymryd rhan dan yr amod eu bod yn cymryd ‘hunluniau’.
“Gall y blaned fyw hebom ni, ond allwn ni ddim byw heb y blaned,” meddai un o arwyddion y gwrthdystwyr, ac maen nhw wedi bod yn gweiddi: “Ieuenctid tros yr amgylchedd”.
Dyma’r drydedd wythnos yn olynol o wrthdystio, a bydd gorymdaith arall yn cael ei gynnal ar ddydd Sul gydag oedolion yn cymryd rhan.