Mae menter gymunedol yn Eifionydd yn dweud eu bod nhw eisoes wedi casglu mwy na £60,000 ar gyfer achub tafarn leol.

Mae Tafarn y Plu, Llanystumdwy, wedi bod ar y farchnad ers tair blynedd, a bwriad grŵp Menter y Plu yw prynu’r busnes ar gyfer y gymuned.

Cafodd apêl ei  lansio cyn y Nadolig gyda’r nod o godi tua £80,000 ar gyfer y fenter. Roedd dyddiad cau’r apêl yn wreiddiol ar Dachwedd 31, ond cafodd wedyn ei ymestyn hyd at y flwyddyn newydd, gyda’r dyddiad cau newydd yr wythnos nesaf (Ionawr 31).

Yn ôl cyfarwyddwyr Menter y Plu, maen nhw’n barod i symud i’r “cymal nesaf o’u cynlluniau”, ond mae dal modd i ddarpar brynwyr fuddsoddi rhwng £100 a £200,000 trwy brynu cyfranddaliadau.

“Byddai rhoi rheolaeth dros Dafarn y Plu yn nwylo’r gymuned leol yn gwneud yn siŵr y byddai ei dyfodol fel lle i gymdeithasu, i gyfarfod, i sgwrsio ac i fwynau yn ddiogel,” meddai’r cynghorydd lleol, Aled Lloyd Evans.

“Allwn ni ddim fforddio colli unrhyw adnoddau cymdeithasol pellach os ydy’r ffordd i ffynnu ac i barhau i fod yn lle atyniadol i fyw ac i fagu teulu ynddo.