Mae dynes a gafodd ei chipio yn blentyn a’i chludo i Yemen, bellach wedi dychwelyd at ei theulu yng Nghaerdydd.

Mewn cynhadledd i’r wasg ar fore Iau (Ionawr 24), fe ddatgelodd yr Aelod Cynulliad, Neil McEvoy, bod Safiah Saleh wedi cyrraedd Cymru nos Fercher (Ionawr 23).

Cafodd ei chipio gan ei thad bron i 35 mlynedd yn ôl, a hithau’n ddim ond blwydd a hanner oed. Bellach mae ganddi ŵr, Labeb, a phedwar plentyn  – Mohammed 12, Jacqueline 11, Lucy 10, ac Asalah, 2 – ac mae’r teulu cyfan wedi dod gyda hi i Gymru.

Mae Neil McEvoy wedi bod ynghlwm â’r ymgyrch i’w helpu i ddychwelyd i Gymru, ac wedi dymuno’r gorau i’r teulu.

“Gobeithiaf y gallan nhw i gyd fyw mewn heddwch ac urddas,” meddai. “A gobeithio bydd eu cartref yn hapus ac yn llawn cariad. Maen nhw’n haeddu hynny.

“Bydda i’n parhau i’w helpu nhw ym mhwy bynnag ffordd ag y gallaf wrth iddyn nhw symud ymlaen i’r bennod nesaf yn eu stori ryfeddol.”

Y cefndir

Yn 1986 cafodd Safia Saleh, a’i chwiorydd Rahannah a Nadia eu cipio gan ei thad, Sadek Saleh.

Dyn o Yemen yw’r tad ac roedd wedi dweud wrth fam y merched, Jackie Saleh, ei fod yn bwriadu mynd â nhw i dŷ eu tad yn y Rhath.

Daeth i’r amlwg yn y pendraw ei fod wedi eu cludo i Yemen, ond methodd ymdrechion i ddod o hyd iddyn nhw.

Yn 2001, fe dderbyniodd Jackie Saleh lythyr gan Rahannah, ac mi deithiodd i Yemen i’w cyfarfod am y tro cyntaf ers blynyddoedd.

Ym mis Tachwedd y llynedd, llwyddodd ymgyrch ar-lein i godi £7,485 i helpu Safia Saleh i ddychwelyd i Gymru.