Fe allai cyn-drysorydd Plaid Cymru, a gyhoeddodd yr wythnos ddiwethaf ei fod yn gadael oherwydd safiad y blaid ar fater annibyniaeth, fod wedi ennill sedd Blaenau Gwent, yn ôl cynghorydd lleol sydd hefyd wedi troi cefn ar y blaid.

Ddydd Iau yr wythnos diwethaf (Ionawr 17), fe gyhoeddodd Nigel Copner ei fod yn gadael Plaid Cymru. Fe fu’n ymgeisydd yn etholaeth Blaenau Gwent yn Etholiad Cynulliad 2016, a fe fu bron iawn iddo ennill y sedd honno.

Mae Gareth Leslie Davies bellach yn gynghorydd annibynnol ym Mlaenau Gwent, a than fis Mawrth y llynedd ef oedd unig gynghorydd Plaid Cymru ar y Cyngor Bwrdeistref Sirol.

Wrth ymateb i ymddiswyddiad Nigel Copner, mae’n cymharu sefyllfa’r ddau.

“Dw i’n credu y gallai fod wedi ennill sedd Blaenau Gwent yn yr etholiad nesaf,” meddai  Gareth Leslie Davies wrth golwg360, “ond roedd Nigel yn teimlo, yn debyg i mi o bosib, bod Plaid Cymru yn esgeuluso’r sedd yma yng ngogledd Gwent.

“Dw i’n credu ei fod yn ystyried [sefyll eto yn annibynnol]. Petasai’n sefyll, dw i’n sicr y byddai’n cael mwy o gefnogaeth na phan safodd tros Blaid Cymru.

“Dw i’n gobeithio y bydd yn dychwelyd yn wleidydd annibynnol. Os bydd yn gwneud hynny, mi fydda’ i’n ymuno ag ef wrth gnocio drysau. Yn bendant.”

Adam Price?

Dyw Gareth Leslie Davies ddim yn gefnogol o arweinydd diweddaraf Plaid Cymru, Adam Price, ac er iddo gefnu ar y Blaid tra’r oedd Leane Wood wrth y llyw, mae’n dweud ei fod yn ei ffafrio hi tros Aelod Cynulliad Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.

“Mae yna anhrefn nawr,” meddai, “yn enwedig gydag arweinydd newydd Plaid Cymru… Ro’n i’n cefnogi Leanne Wood. Mae Adam Price yn gogwyddo tuag at ogledd Cymru yn fwy nag oedd Leanne.

“Oedd, roedd Leanne ychydig yn ddiflewyn ar dafod, ond â hithau’n byw yng Nghwm Rhondda, mae ganddi gwell syniad o realiti. Roedd hi wedi ail-danio’r blaid, ac wedi gwneud argraff dda.”

Sylwadau Nigel Copner

Wrth ddatgan ei fod yn cefnu ar Blaid Cymru, fe dynnodd Nigel Copner sylw at dri rheswm a ddylanwadodd ar ei benderfyniad.

Beirniadodd Blaid Cymru am fod mor frwd ei chefnogaeth am annibyniaeth i Gymru, am sut wnaethon nhw wrthwynebu Brexit, ac am “ddiffyg democrataidd”.

Mae Gareth Leslie Davies yn ochri ag ef tros y materion rheiny.

“Dylwn fod wedi bwrw ati â’r job yn lleol,” meddai. “O ran annibyniaeth, i fod yn berffaith onest, dw i ddim yn credu ei fod yn iawn.

“Pan ymunais â’r blaid, ro’n i’n credu ei fod yn opsiwn gwahanol i Lafur a’r Ceidwadwyr. Ar ôl ychydig, fe sylwais ar gyfeiriad pethau.”

Ymateb Plaid Cymru

Ymateb Plaid Cymru

“Mae’n siomedig gweld unrhyw aelod yn gadael y blaid – yn enwedig pan fo miloedd o aelodau newydd wedi ymuno â ni yn ddiweddar,” meddai llefarydd ar ran Plaid Cymru.

“Diolchwn i Nigel am ei wasanaeth i Blaid Cymru ac rydym yn dymuno’n dda iddo ar gyfer y dyfodol.”