Mae llys yn yr Wcráin wedi dod i’r casgliad bod un o gyn-arlywyddion y wlad yn euog o deyrnfradwriaeth.

Dydy Viktor Yanukovych ddim wedi bod yn yr Wcáin ers iddo ffoi oddi yno yn 2014, wrth i densiynau cynyddu yn sgil gweithredoedd yr heddlu yn erbyn protestwyr a oedd ar yr arlywydd i ffurfio partneriaeth gyda’r Undeb Ewropeaidd.

Fe ddaeth i’r amlwg yn ddiweddarach fod y gwleidydd wedi ffoi i Rwsia, ond cafodd achos llys ei gynnal yn yr Wcráin er gwaethaf ei absenoldeb.

Yn ogystal â theyrnfradwriaeth, roedd hefyd yn wynebu cyhuddiadau o ymddwyn yn anghyfreithlon yn ystod rhyfel yn erbyn yr Wcráin ac o gynllunio i newid ffiniau’r wlad.

Mae disgwyl dyfarniad ar y cyhuddiadau eraill cyn hir.