Mae Swltan Abdullah Sultan Ahmad Shah o dalaith Pahang wedi ei enwi’n frenin newydd Malaysia.

Mae’n cymryd lle Swltan Muhammad V, a ymddiswyddodd ar ôl dwy flynedd o fod ar yr orsedd.

Roedd yr arweinydd 49 oed wedi cyhoeddi ei fwriad i gamu o’r neilltu ar Ionawr 6, gan dorri ei dymor o bum mlynedd fel brenin yn fyr.

Chafodd ddim rheswm ei gyflwyno am ei ymddiswyddiad ar y pryd, ond daeth y cam yn sgil adroddiadau ei fod wedi priodi â dynes 25 oed o Rwsia ym mis Tachwedd y llynedd.

Cafodd Swltan Abdullah ei ethol yn frenin newydd gan Gynhadledd yr Arweinwyr ddydd Iau (Ionawr 24).

Mae disgwyl iddo ddechrau yn y swydd ar Ionawr 31.