Mae cyn-Brif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, wedi cael ei arestio a’i gyhuddo gan yr heddlu – ond dydi’r heddlu ddim yn fodlon cadarnhau ar hyn o bryd beth ydi’r union gyhuddiad yn ei erbyn.

“Gallwn gadarnhau bod dyn 64 oed wedi cael ei arestio a’i gyhuddo, ac fe fydd adroddiad yn cael ei anfon at yr erlynydd cyhoeddus,” meddai llefarydd ar ran Heddlu’r Alban.

Roedd Alex Salmond, o Linlithgow, Gorllewin Lothian, yn Brif Weinidog ar yr Alban rhwng 2007 a 2014.

Bu hefyd yna arweinydd ar blaid yr SNP ar ddau achlysur, sef rhwng 1990-2000 a 2004-2014.

Mae disgwyl iddo ymddangos ger bron Llys Siryf Caeredin hediw (dydd Iau, Ionawr 24).