Mae llefarydd Tŷ’r Cynrychiolwyr yn America wedi gohirio yn swyddogol araith flynyddol yr arlywydd – a hynny nes y bydd llywodraeth y wlad wedi ail-agor.
Mae Nancy Pelosi wedi hysbysu Donald Trump yn ffurfiol mewn llythyr fod y Democratiaid yn gwrthod rhoi caniatad iddo annerch y genedl o lawr y Tŷ.
Fe ddaeth y llythyr oriau’n unig wedi i Donald Trump anfon ati hi i gadarnhau ei fod yn bwriadu traddodi ei anerchiad ddydd Mawrth nesaf (Ionawr 29), yn unol â’i gwahoddiad gwreiddiol iddo.
Mae’r Tŷ Gwyn bellach yn ceisio meddwl am ffordd arall o gyflwyno’r araith, sy’n un o brif gyfleoedd yr arlywydd i osod ei stondin gerbron y genedl.
“Rwy’n edrych ymlaen i’ch croesawu i Dŷ’r Cynrychiolwyr ar ddyddiad cyfleus i chi ac i ninnau, pan fydd y llywodraeth wedi ail-agor,” meddai llythyr Nancy Pelosi.
Mae rhannau o’r llywodraeth wedi cau i lawr ers dros fis o ganlyniad i ffrae rhwng Donald Trump a gwleidyddion sy’n gwrthod caniatau $5bn iddo adeiladu wal rhwng yr Unol Daleithiau a Mecsico.