Mae mwy na dwsin o aelodau plaid asgell dde eithafol yn yr Almaen wedi cerdded allan o senedd Bafaria yn ystod teyrnged i ddioddefwyr yr Holocost.

Roedd arweinydd Iddewig wedi cyhuddo aelodau’r blaid ‘Dewis Arall i’r Almaen’ (yr AfD) o ddiystyru troseddau’r Natsïaid ac o wneud yn fach o ddioddefaint Iddewon.

A dyna pryd y cododd yr aelodau ar eu traed tra’r oedd un o oroeswyr yr Holocost, Charlotte Knobloch, yng nghanol anerchiad yn honni fod gan eu plaid nhw “gysylltiad agos gyda’r dde eithafol”.

Roedd hi’n annerch gwleidyddion ar drothwy Diwrnod Rhyngwladol Cofio’r Holocost ar Ionawr 27.

Tra bod aelodau’r AfD yn cerdded allan, fe gododd gwleidyddion eraill ar eu traed er mwyn cymeradwyo Charlotte Knobloch.

Fe enillodd plaid yr AfD ei seddau cyntaf yn senedd Bafaria y llynedd, ac mae ganddi 22 sedd yn y cynulliad o 205.

Mae Katrin Ebner-Steiner, arweinydd y blaid yn senedd Bafaria, yn dweud fod cerdded allan yn “ymateb addas” i sylwadau Charlotte Knobloch.