Mae’r tebygolrwydd y bydd ail refferendwm Brexit yn cael ei gynnal “wedi cynyddu’n sydyn,” yn ôl yr Uned Gwybodaeth Economaidd (EIU).

Rhoddodd y grŵp y tebygolrwydd o bôl arall ar Brexit ar 50%, sydd i fyny o 30% mewn dadansoddiad tebyg llai na phythefnos yn ôl.

Dywed yr Uned hefyd ei bod yn disgwyl i’r Llywodraeth ohirio’r ymadawiad Ynysoedd Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’n rhagweld na fydd “Cynllun B” y Prif Weinidog, Theresa May, ar gyfer Brexit yn ddigonol er mwyn sicrhau cymeradwyaeth seneddol.

Rhoddodd y tebygolrwydd i lwyddo ar 20%.

Yn ôl yr Undeb, byddai ail bôl yn rhoi’r cam nesaf yn nilysrwydd poblogaidd y cyhoedd – boed os yw’n cymeradwyo fersiwn o gytundeb Theresa May, yn gadael heb gytundeb, neu’n atal Brexit.

Mae’n rhoi Brexit llyfn ar 15%, yn rhoi etholiad cyffredinol ar 10%, ac yn rhoi Brexit heb gytundeb ar 5%.