Roedd Banc Bwyd Arfon yn falch o dderbyn rhodd hael arall at ei waith yn ddiweddar, y tro hwn, yn sgil cydweithio rhwng staff a chwsmeriaid Tafarn y Porth a Siop Morrisons Caernarfon. Fe wnaeth staff Morrisons baratoi “hamper” Nadolig ac wedyn bu staff a chwsmeriaid y dafarn yn prynu tocynnau raffl ac yn gwneud cyfraniadau i’r Banc Bwyd yn yr wythnosau cyn y Nadolig.

Dywedodd Lowri Jones sy’n rheoli’r Banc Bwyd gydag Arwel, ei gŵr, “Roedd yn dipyn o sioc bod dros £800 wedi ei hel mewn cyfnod mor fyr ac roeddem wrth ein bodd yn derbyn hynny.” Yn y llun, gwelir Lowri ac Arwel gyda Allison a Cheryl o Morrisons a Sion a Haydn o Dafarn y Porth.

Mae gwaith y Banc Bwyd yn cwrdd ag anghenion brys pobl sydd mewn angen yn ardal Arfon. Rhwng Ebrill a diwedd Ionawr, dosbarthwyd pecynnau bwyd ar gyfer dros 1750 o bobl sy’n golygu, yn anffodus, y bydd ffigwr eleni yn debyg i’r flwyddyn ddiwethaf, y nifer fwyaf ers sefydlu’r Banc Bwyd yn 2012.

Os ydych am gefnogi’r Banc Bwyd, dilynwch y newyddion diweddaraf ar ei safle Facebook “Banc Bwyd Arfon” neu e-bostiwch ar info@arfon.foodbank.org.uk