Fis nesa mi fydd Mike Downey, blaenasgellwr tîm rygbi Caernarfon yn rhoi’r gorau i’w swydd yn Ysgol Gynradd Waunfawr ac yn ei throi hi am y Wladfa, Patagonia i ddysgu yn Ysgol Gymraeg y Gaiman. Mi fydd o hefyd yn hyfforddi ac yn chwarae i’r clwb rygbi lleol sef Clwb y Ddraig Goch.
“Roedd na ddau ohonan ni wedi trio am y swydd yn yr ysgol”, meddai Mike, “Cari Davies o Abertawe a finna. Mi gawsom ni gyfweliad ar skype ac mi benderfynon nhw y basan nhw’n cymryd y ddau ohonan ni – ar ôl cael gair efo’r clwb rygbi nath gytuno i gyfrannu at ’y nghyflog i am hyfforddi a chwara iddyn nhw!”
Un o’r ddwy yn cyfweld ac ar ben arall y skype oedd Esyllt Nest Roberts a fagwyd ym Mhencaenewydd a’r Ffôr ond sy’ bellach wedi hen setlo yn y Gaiman. Mi ath hi yno, fel Mike, i ddysgu am gyfnod byr. Roedd hynny bron i bymtheng mlynedd yn ôl gan iddi briodi’r deintydd lleol a chael dau o hogia’! Cyn mynd i’r Wladfa bu Esyllt yn dysgu yn Ysgol Gynradd Bontnewydd am dair blynedd.
Roedd hi ‘adra’ dros y Nadolig, fodd bynnag – cyfle, felly i gwrdd â Mike Downey am y tro cyntaf ac i roi ’chydig o wybodaeth iddo am yr hyn sy’n ei ddisgwyl yn yr Ariannin bell – bod Gaiman fymryn llai na Chaernarfon ac mai un dafarn sydd yno, o’r enw y Mochyn Du.
“Mi fydda i’n mynd o’r Bachgen Du i’r Mochyn Du, felly byddaf?!” meddai Mike â gwên ar ei wyneb.
[Os oes gan unrhyw un o ddarllenwyr Papur Dre awydd cyfrannu at y gwaith clodwiw a wneir gan y criw bychan yno mae croeso i chi gysylltu ag Esyllt i gael gwybod sut mae gwneud. [esylltnest@yahoo.co.uk ]
YSGOLION CYMRAEG Y WLADFA
Pan aeth Esyllt i’r Gaiman gyntaf dim ond ysgol feithrin Gymraeg oedd yno. Mae ’na oddeutu 100 o ddisgyblion bellach yn Ysgol Gynradd Gymraeg y Gaiman. Addysgir y disgyblion yn ddwyieithog (Cymraeg a Sbaeneg) yn y bore ac yn Gymraeg yn unig yn y pnawn.
Erbyn hyn hefyd mae ’na ddwy ysgol gynradd Gymraeg arall yn y Wladfa – y naill yn Nhrelew, sef Ysgol yr Hendre sydd wedi’i gefeillio gyda’n Ysgol Hendre ni yn Dre a’r llall, Ysgol y Cwm, yn Nhrevelin wrth droed yr Andes yn y gorllewin.