Mae cwmni plastig REHAU wedi cyhoeddi cynlluniau i gau eu safle yn Amlwch, Ynys Môn, heddiw (Dydd Mercher, Ionawr 23) gan roi mwy na chant o swyddi yn y fantol.
Daw hyn chwe diwrnod yn unig ers y newyddion bod cynlluniau i adeiladu Wylfa Newydd wedi cael eu gohirio gan gwmni Hitachi.
Yn ôl REHAU, daw’r penderfyniad o ganlyniad i gwymp yn y galw am ei gynhyrchion PVC dramor.
Mae’r cwmni’n dweud eu bod nhw’n ymdrechu i sicrhau dyfodol i’r safle yn Amlwch drwy wella cynhyrchiant a chreu peiriannau newydd.
O ganlyniad, mae’r cwmni yn cynnig cau’r safle – sy’n rhoi 104 o swyddi yn y fantol.
Mae’r ffatri yn Amlwch wedi bod yn un o brif gyflogwr y dref ers ei hagor nôl ym 1975.
“Swyddi hanfodol”
Dywedodd Rhun ap Iorwerth, Aelod Cynulliad dros Ynys Môn ar Twitter bod ei “feddyliau gyda’r 104 o weithwyr, a chymuned ehangach Amlwch, lle mae’r swyddi hyn mor hanfodol.”
“Llai nag wythnos ar ôl cyhoeddiad Wylfa Newydd, ni allaf fynegi pa mor siomedig yw hyn. Dwi’n gobeithio ymweld â nhw yfory.”
Fe ofynnodd Rhun ap Iorwerth gwestiwn brys yn y Senedd ddoe (Dydd Mawrth, Ionawr 22) gan ddatgan fod angen “buddsoddi yn nyfodol pobol ifanc Ynys Môn.”
Bydd y newyddion yn ergyd arall i bobol yr Ynys, meddai.
“Amser anodd”
Dywedodd llefarydd ar ran cwmni REHAU eu bod nhw’n bwriadu rhoi cymorth i’r rhai sydd wedi’u heffeithio.
“Rydym yn deall y bydd y penderfyniad hwn yn cael effaith sylweddol ar ein gweithlu a’r gymuned leol, ond credwn yn gryf eu bod yn angenrheidiol i wneud y cwmni’n gryfach ac i’w roi yn y sefyllfa orau i wynebu heriau a chyfleoedd y dyfodol.”
“Ergyd ddinistriol”
Mae Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, y Cynghorydd Llinos Medi, wedi addo i weithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn cynnig cymaint o gefnogaeth â phosib i ffatri Rehau UK yn Amlwch.
Dywedodd y Cynghorydd Llinos Medi, “Mae hyn yn newyddion difrifol dros ben i’r dref. Rwyf eisoes wedi cysylltu â Phrif Weithredwr Rehau, Martin Hitchin, er mwyn cynnig ein cefnogaeth yn ogystal â chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru i weld sut y gallant gynorthwyo’r cwmni wrth symud ymlaen.”
“Fel cyflogwr mwyaf Amlwch, rwy’n ymwybodol iawn o’r effaith y byddai cau Rehau yn ei gael ar y dref – byddai’n ergyd ddinistriol iddi. Byddai colli 104 o swyddi yn cael effaith mawr ar nifer o deuluoedd – gyda rhai hefo mwy nag un perthynas yn gweithio yna – yn ogystal â’r gymuned leol. Byddaf yn gweithio gydag aelodau ward Twrcelyn ac yn gwneud yn siŵr eu bod nhw’n cael eu diweddaru.”
Ychwanegodd, “Ein nod nawr yw trefnu cyfarfod gyda’r cwmni, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill cyn gynted â phosib. Mae’r trefniadau i hwyluso cyfarfod eisoes wedi cychwyn.”
“Hynod bryderus”
Dywedodd Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd Môn, Dylan Williams, “Rydym yn hynod bryderus am yr effaith tymor byr a’r rhagolygon hir dymor ar gyfer Gogledd Ynys Môn.
“Daw’r ymgynghoriad gan Rehau yn Amlwch yn fuan wedi’r penderfyniad i oedi gyda chynllun Wylfa Newydd ac mae’r gwaith i gael gwared â thanwydd o’r orsaf bwer Magnox bresennol hefyd yn dirwyn i ben. Bydd yr holl effeithiau yma yn sylweddol ac angen ymateb dynamig gan y sector gyhoeddus.”