Mae gyrrwr Jeep wedi cael ei ladd yn dilyn gwrthdrawiad â lori rhwng Aberdulais a Resolfen.

Bu farw’r dyn 52 oed yn y fan a’r lle.

Fe ddigwyddodd ar ffordd A465 Blaenau’r Cymoedd toc cyn 6.30 fore heddiw (dydd Mercher, 23 Ionawr).

Roedd y ffordd ynghau i’r ddau gyfeiriad am chwe awr wrth i ymchwiliad gael ei gynnal.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.